Você está na página 1de 6

Dysgu

Adnodd 5 Yn Dilyn Ymweliad

Addasiadau Anifeiliaid
Taflen Ffeithiau am Anifeiliaid y Coetir
Cadno/Llwynog
Bwyd: Bydd llwynogod yn bwyta bron popeth y gallant gael gafael arno. Maent yn bwyta mamaliaid bach fel cwningod, llygod, pryfed ac infertebratau, ffrwythau ac aeron heb sn am wastraff bwyd dynion. Cartref: Mae llwynog yn byw mewn ffau. Addasiadau: Mae gan nifer o ysglyfaethwyr, gan gynnwys y llwynog, lygaid a chlustiau syn edrych ymlaen er mwyn canolbwyntio ar eu hysglyfaeth. Mae ganddynt glustiau craff a synnwyr arogli llym. Mae eu llygaid yn gyflym i weld unrhyw symudiad ond nid ydynt mor dda hynny o ran gweld gwrthrychau llonydd. Mae ysglyfaeth fel llygod yn cael eu darganfod drwy swn. Bydd llwynog yn llamu ar yr union fan y daeth y swn, gan ddal ei ysglyfaeth o dan ei bawennau blaen. Mae gan y llwynog ddannedd mawr syn ei alluogi i gydio yn ei ysglyfaeth ai thrywanu.

Cwningen

Bwyd: Mae cwningod bron yn llysieuwyr yn gyfan gwbl. Maent yn bwyta dail, glaswellt, bylbiau, rhisgl coed, ond yn achlysurol byddant yn bwyta mwydyn neu hyd yn oed gwlithen!! Cartref: Cwningar Addasiadau: Mae gan gwningod synnwyr arogli da a chlyw da iawn. Mae eu clustiau mawr yn symud yn barhaol er mwyn dal synau bach. Mae eu llygaid ar ochr eu pen ar gyfer gweld y cyfan o amgylch, ac mae hyn ynghyd u clyw yn eu rhybuddio o ysglyfaethwyr. Mae ganddynt goesau l cryf ar gyfer rhedeg a chicio ysglyfaethwyr fel y carlwm. Pan maen rhedeg mae ei gynffon wen yn rhybuddio cwningod eraill am berygl.

Ystlum

Bwyd: Yn aml iawn maen dal pryfed wrth hedfan. Cartref: Mewn toeau a waliau adeiladau, hen goed ac ogofau. Addasiadau: Mae ystlumod yn allyrru synau uwchsonig i leoli eu hysglyfaeth yn ogystal ag unrhyw rwystrau yn eu llwybrau hedfan. Maer sain yn bwrw yn l gan ddangos iddynt eu lleoliad. Yr enw am hwn yw lleoliad adlais. Nid ydynt yn ddall ac mae eu llygaid yn gweld yn ddigon da iw cynorthwyo gydau mordwyo. Mae ganddynt grafangau ar eu traed l a bachau ar eu bysedd bawd syn eu galluogi i gropian a chrogi oddi ar arwynebedd garw.

Dysgu
Adnodd 5 Yn Dilyn Ymweliad

Gwiwer

Cartref: Maer nyth ar ffurf pl-droed ac wedi ei wneud o frigau ac mae wedi ei leinio glaswellt sych a rhisgl wedi ei falu. Bwyd: Maent yn bwyta mes, cnau, hadau, ffyngau, rhisgl coed, dail ac egin. Byddant hefyd yn bwyta wyau adar a phryfed ar adegau. Addasiadau: Mae ganddynt draed cryf a chrafangau miniog syn eu galluogi i ddringo. Mae ganddynt drwynau byr a llygaid syn syllu ymlaen gan fod angen iddynt bwyso a mesur pellteraun fanwl gywir wrth neidio o gangen i gangen ym mrigaur coed. Nid oes ganddynt ofn ysglyfaethwyr i fyny yno ac mae eu cynffonau mawr blewog yn eu helpu i gadw eu balans. Mae ganddynt ddannedd blaen mawr sydd bob amser yn tyfu, ond maen bosibl eu cadwn fyr wrth gnoi yn gyson. Mae gwiwerod yn claddu unrhyw fwyd dros ben ar gyfer y gaeaf, ond yn aml nid yw hwn yn cael ei gasglu ac felly mae hyn yn helpu gyda dosbarthu hadau coed.

Tylluan Frech

Cartref: Maen clwydo ar gangen yn ystod y dydd, ac maen well ganddi goetiroedd a chlos fferm, ond mae iw gweld yng ngerddi, parciau a dinasoedd hefyd. Bwyd: Adar a mamaliaid bach, brogaod/ llyfant a phryfed. Addasiadau: Aderyn y nos a chanddo lygaid a chlustiau hynod sensitif. Mae ei glyw mor dda gall leoli ei ysglyfaeth hyd yn oed pan maen rhy dywyll iw lygaid miniog eu gweld. Mae blaen ei adenydd fel crib ac wedi ei orchuddio phlu meddal syn ei alluogi i hedfan yn dawel. Maen disgyn ar ei ysglyfaeth gan ei ladd gydai grafangau llym neu big main.

Llygoden y Maes

Cartref: Maent yn cysgu yn ystod y dydd mewn tyllau yn y ddaear mewn coetiroedd ond hefyd maent mewn ardaloedd agored fel twyni tywod, caeau, rhosydd ac ati. Bwyd: Hadau, blagur ac egin yn bennaf, ond pryfed a malwod hefyd. Addasiadau: Mae ganddynt glustiau a llygaid mawr ar gyfer gweld eu ffordd yn y tywyllwch a chanfod perygl. Mae ganddynt lawer o ysglyfaethwyr fel y dylluan frech ar carlwm, ond mae ganddynt draed l mawr syn eu galluogi i lamu a symud yn gyflym iawn. Mae ganddynt synnwyr arogli da maent yn ei ddefnyddio ar gyfer adnabod llygod eraill.

Draenog

Bwyd: Chwilod, lindys a phry genwair yn bennaf, ond wyau adar gwlithenni a malwod hefyd. Cartref: Maen gaeaf-gysgu yn y gaeaf mewn nyth gysgodol o ddail a glaswellt. Addasiadau: pigynau miniog dros ben ar gyfer eu hamddiffyn. Drwy rolion bl maen diogelu ei hun rhag y rhan fwyaf oi ysglyfaethwyr, ac yn anffodus dyna pam mae cymaint ohonynt yn cael eu lladd gan geir. Mae ganddynt goesau hir syn eu helpu i redeg yn gyflym a chrafangau cryf ar gyfer dringo. Maent yn dibynnu ar eu synnwyr arogli yn bennaf i ddarganfod bwyd.

Dysgu
Adnodd 5 Yn Dilyn Ymweliad

Mochyn daear/broc

Bwyd: Pry genwair, chwilod, ffrwythau, rhai mamaliaid bach, cacwn a nythod gwenyn ar adegau. Cartref: Rhwydwaith tanddaearol o dyllau a elwir yn set. Addasiadau: Synnwyr arogli craff dros ben ar gyfer arogli peryglon. Mae moch daear or un set yn arogli ei gilydd er mwyn hwyluso adnabyddiaeth. Mae ganddynt bawennau blaen nerthol dros ben ar gyfer cloddio eu setiau, ac maent yn hogi ac yn glanhau eu crafangau ar goed. Mae ei streipiau du a gwyn yn guddliw iddynt yn y coetir erbyn nos.

Twrch Daear/Gwahadde

Bwyd: Pry genwair yn bennaf, ond larfa chwilod a gwlithenni hefyd. Maent yn bwyta pwysau eu corff o fwyd bob dydd. Cartref: O dan y ddaear yn y rhan fwyaf o leoedd ond am dir uchel dros oddeutu 1000m. Addasiadau: Maer wahadden wedi ei adeiladu ar gyfer cloddio twneli. Mae ganddo gyhyrau cryf a thraed blaen chrafangau mawr ar gyfer cloddio. Mae ei ffwr yn dal d wr. Nid ywn ddall ond dim ond llygaid bach sydd ganddo. Maen canfod ei ffordd yn y tywyllwch dan y ddaear drwy ddefnyddio blew sensitif ar ei drwyn ai gynffon, ar synhwyron gyffwrdd ar ei drwyn.

Ewig Lwyd

Bwyd: Porfa a pherlysiaun bennaf, ond egin coed a rhisgl, grug, rhedyn, cnau, ffrwythau a ffyngau. Cartref: Maen well ganddo goetir cymysg collddail. Mae parciau gwledig yn ddelfrydol am eu bod yn darparu gorchudd coetir agos gydag ardaloedd agored ar gyfer pori. Addasiadau: Mae ei ffwr brith ac amrywiol yn ei wneud yn feistr ar guddliw, a gall yr ewig ddiflannu yn y coetir. Mae eu llygad ar ochr eu pen fel eu bod yn gallu gweld ou hamgylch yn llwyr, syn hanfodol wrth bori allan yn agored er mwyn gweld perygl.

Y Torgwana Llai Talpiog Syn Byw yn yr Anialwch


Talpiau ar ei gefn ar gyfer storio d wr fel y gall fynd am amser hir heb yfed. Cwcwll i roi cysgod rhag yr haul ac maer tywod yn chwythu dros ei ben gan ei gadw allan oi glustiau ai lygaid.

Mae ganddo deils bach gwrth wres ar ei fola fel y gall orwedd a chysgu ar y tywod poeth.

Adnodd 6 Yn Dilyn Ymweliad

Traed mawr fflat yn dda ar gyfer cerdded ar dywod.

Blew hir ar ei amrannau i gadw tywod allan oi lygaid. Tafod hir gludiog i ddal pryfed a chreaduriaid bach

Addasiadau Anifeiliaid

Cynffon hir ar gyfer taro clr a chreaduriaid bach eraill. Mae hyn yn eu cadw oddi ar ei gorff ond hefyd maen eu taro i lawr fel y gall eu bwyta.

Dysgu

Dysgu
Adnodd 7 Yn Dilyn Ymweliad

Addasiadau Anifeiliaid
Crwch eich Creadur
Dychmygwch greadur sydd yn: Byw yn y mr Gallu anadlu o dan y d wr ac nid oes angen iddo ddod i fyny ir wyneb i gael awyr Bwyta crancod a chimwch Ysglyfaeth ir siarc, ond nid ywn gallu symud yn gyflym iawn Wrth dynnu llun eich creadur meddyliwch am: Y math o geg fyddai ei angen arno i fwyta crancod a chimwch? Sut mae wedi addasu i godi ofn, cuddio neu ddianc rhag siarcod? Sut maen symud ac yn anadlu? Dychmygwch greadur sydd yn: Byw yn yr anialwch Bwydo ar sudd cactws a phlanhigion pigog eraill yn yr anialwch Cael ei fwyta gan nadredd a chreaduriaid eraill yn yr anialwch Tran tynnu llun eich creadur meddyliwch am: Y math o geg fyddai ei angen arno i fwyta planhigion pigog? Sut mae wedi addasu i godi ofn, cuddio neu ddianc rhag nadredd? Ble yn yr anialwch fyddai ei gartref?

Dysgu
Adnodd 8 Yn Dilyn Ymweliad

Celf Cuddliw
Lluniau enghreifftiol

Você também pode gostar